

Mae Peniarth yn un o brif ddarparwyr adnoddau print a digidol sy'n gwasanaethu'r sector addysg yng Nghymru gyfan o gyfnod y blynyddoedd cynnar i addysg uwch. Mae Peniarth wedi creu dros 500 o adnoddau ers 2009 gan gynnwys y cynllun darllen poblogaidd Tric a Chlic.
Peniarth is one of the main providers for published and digital resources servicing the education sector in Wales as a whole from early years to higher education. Peniarth has created more than 500 resoucers since 2009 including the popular reading scheme, Tric a Chlic.
Oeddech chi'n gwybod bod gan Peniarth amrywiaeth eang o adnoddau am ddim ar wefannau amrywiol yn cynnwys gwefan Hwb, Llywodraeth Cymru? Mae'r adnoddau hyn yn cyd-fynd â'n deunyddiau print sydd ar werth ar ein siop ar-lein.
Rydyn ni wedi cyhoeddi dros 500 o adnoddau print erbyn hyn ac mae nifer fawr o'n hadnoddau yn cynnwys gweithgareddau rhyngweithiol a digidol i gefnogi'r dysgu ar lawr y dosbarth. Mae'r adnoddau hyn i gefnogi ymarferwyr wrth iddynt gyflwyno'r Chwe Maes Dysgu a Phrofiad i'r dysgwyr, ac i'r dysgwyr gael y cyfle i atgyfnerthu'r sgiliau maent wedi eu dysgu.
Ar y wefan yma dewch o hyd i'n holl adnoddau am ddim - cymerwch olwg!

Did you know that Peniarth has a wide range of free resources across several platforms, including the Welsh Government's Hwb website? These resources are designed to complement the printed materials that are available to purchase on our online shop.
We have published over 500 printed resources, many of which are supported by interactive and digital materials to enhance learning in the classroom. These resources are created to support practitioners as they introduce the Six Areas of Learning and Experience, and for learners to have the opportunity to reinforce the skills they have learned.
On this website you will find links to all our free resources - take a look!
Cliciwch ar y llun i wylio'r fideo...
All practitioners benefit from expert-led training by the pack's author before beginning to use the materials.
Click on the photo to watch the video...
Ydych chi'n gweithredu Tric a Chlic yn eich hysgol chi?
Rydyn ni'n mwynhau teithio ledled y wlad ar hyn o bryd yn cynnal deuddydd o Hyfforddiant Darllen cyfrwng Cymraeg mewn partneriaeth â CYDAG. Rydyn ni fel Canolfan yn gallu darparu Hyfforddiant Tric a Chlic a Darllen i ysgolion neu glystyrau o ysgolion ar lefel consortiwm. Gallwn ni deilwra'r sesiynau ar gyfer eich ysgol chi, boed ar gyfer diwrnod HMS neu hyfforddiant hwyrnos.
Os hoffech chi fynychu un o ddiwrnodau hyfforddiant CYDAG yn Abertawe neu Aberystwyth, cwblhewch y ffurflen yma. Neu os hoffech dderbyn mwy o wybodaeth am ein cynnig, cysylltwch â post@tricachlic.cymru

Do you use the Tric a Chlic synthetic phonics programme in your school?
As a Centre, we can provide Tric a Chlic and Reading Training for individual schools or clusters of school, at consortium level. We can tailor these sessions to meet the specific needs of your school, whether it's for an INSET day or a twilight session.
If you would like to receive more information about our offer, please contact post@tricachlic.cymru
Ydych chi'n edrych ymlaen at ddathlu Diwrnod y Llyfr ddydd Iau?
Os ydych chi'n chwilio am syniadau a gweithgareddau parod, ewch i wefan Cyngor Llyfrau Cymru.

Are you looking forward to celebrating World Book Day on Thursday?
If you're looking for ideas and activity sheets, visit the Books Council of Wales website.
Cymerwch gipolwg ar y catalog a'i lawrlwytho i'ch ffôn neu eich gliniadur. Mae'r holl adnoddau yn cynnwys dolenni hylaw i'r siop i'w gwneud hi'n rhwydd archebu unrhyw adnodd. Gallwch ddod o hyd i'n hadnoddau digidol a'n gweithgareddau ar wefan Hwb mewn chwinciad - edrychwch am y label coch!

Take a look at the catalogue and download it to your phone or laptop. All our resources include direct links to our shop, making it easier than ever to place an order. You can access our digital resources and activities on Hwb at the click of a button - just keep an eye out for the red label!
Rydyn ni'n darparu amrywiaeth o gyrsiau i ysgolion ac yn gallu teilwra'r rhain ar gyfer eich ysgol a diwrnodau HMS.
We offer a range of courses and training for schools and can tailor these to meet your school's meeds, including INSET day.
Cysylltwch â ni i drafod | Contact us to discuss:
Tric a Chlic - post@tricachlic.cymru
Unrhywbeth arall | Any other training - rhagoriaith@pcydds.ac.uk
Dyfarnu Ysgoloriaeth Gyfieithu i Richard Timothy
Simultaneous Interpretation scholarship awarded to Richard Timothy
Darllen mwy | Read more
