Croeso i gylchlythyr Y Ganolfan Gwasanaethau Cymraeg

Welcome to the Welsh Language Services Centre newsletter


Mae Peniarth yn un o brif ddarparwyr adnoddau print a digidol sy'n gwasanaethu'r sector addysg yng Nghymru gyfan o gyfnod y blynyddoedd cynnar i addysg uwch. Mae Peniarth wedi creu dros 500 o adnoddau ers 2009 gan gynnwys y cynllun darllen poblogaidd Tric a Chlic.

Peniarth is one of the main providers for published and digital resources servicing the education sector in Wales as a whole from early years to higher education. Peniarth has created more than 500 resoucers since 2009 including the popular reading scheme, Tric a Chlic.


TRIC A CHLIC

Cyfle am waith achlysurol - Hyfforddwr y rhaglen ffoneg synthetig, Tric a Chlic. 

Rydym yn chwilio am ymarferydd profiadol a hyderus sydd â chefndir cryf ym maes llythrennedd i ymuno â'n tîm o hyfforddwyr. Bydd y rôl yn cynnwys darparu hyfforddiant achlysurol yn ystod tymor ysgol ar ein rhaglen ffoneg synthetig, Tric a Chlic. 

Byddai profiad o gyflwyno'r rhaglen ar lawr dosbarth neu ymwybyddiaeth o gynnwys a strwythur y rhaglen yn fanteisiol. Bydd lleoliad a natur yr hyfforddiant yn amrywio o dymor i dymor ond ni ddisgwylir i chi gynnal dim mwy na 4 diwrnod llawn o hyfforddiant o fewn y tymor.

Os oes gennych diddordeb yn y cyfle hwn ac yr hoffech wybodaeth bellach yna, cysylltwch â ni trwy e-bostio Lois Griffiths - post@tricachlic.cymru

~

We're looking for an experienced and confident practitioner with a strong background in literacy to join our team of Welsh Tric a Chlic coaches. The role will include providing occasional training during term time on our synthetic phonics programme, Tric a Chlic. 

If you know of anyone that would be interested in this role, please encourage them to get in touch with us - post@tricachlic.cymru


EISTEDDFOD GENEDLAETHOL

Ydych chi'n mynd i'r Eisteddfod Genedlaethol eleni?

Ry'n ni'n edrych ymlaen at wythnos arbennig arall ar faes yr Eisteddfod.

Byddwn ni ar stondin Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant - rhif 801-808. Dewch draw i ddweud helo!

Bydd gweithgareddau amrywiol, adnoddau Peniarth i bori drwyddynt a'u prynu, a gwybodaeth am gyrsiau a hyfforddiant Rhagoriaith ar gael drwy gydol yr wythnos.

Dyma flas o beth fydd ymlaen gyda ni yn ystod yr wythnos 👇

~

Are you going to the National Eisteddfod this year?

We're looking forward for another fantastic week. We'll be on the University of Wales Trinity Saint David stand - number 801-808. Come over and say hello! 

We'll have various activities, Peniarth resources to browse through and buy and information about courses and Rhagoriaith training. 

Here's a taste of what's on with us during the week 👇